‘Falla ei bod hi’n fis yr adfent yn y byd go iawn, ond ym myd Glanrafon mae’r Nadolig ‘di hen fod nôl ym mis Gorffennaf.
I fod ar eich sgrîn dros yr ŵyl, bu’n rhaid i griw Rownd a Rownd fod yn eu cotiau gaeaf wedi eu hamgylchynnu â thinsel fisoedd yn ôl – ond mawr fydd eu gwobr am hynny gan y bydd gwledd ar eich cyfer eleni.
O briodas llawn sbarcl, i sbarc carwriaethol, i gyfaddefiad ffrwydroadol!
Ond, ‘da ni wedi bod yn cael amser digon joli yma yn ddiweddar yn gweithio ar rywbeth tu hwnt i’r hyn fydd ar y teledu. ‘Da ni wedi ffilmio ein cân Nadolig sy’n lond trol o sbort bob blwyddyn.
Mae hi allan rŵan, gyda chymeriad Trystan ar flaen y gad a’r cymeriadau i gyd yn ymuno yn eu tro i ganu ‘Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda’ gan Mei Gwynedd!
Mae hi ar gael i’w gwylio rŵan ar sianel YouTube Rownd a Rownd (linc isod), ynghyd â’n caneuon Nadolig o’r gorffennol.
Mwynhewch, a Nadolig Llawen ganddon ni gyd yma yng Nglanrafon… wel, Porthaethwy a Llangefni!