Gwahodd cymunedau i ymgeisio am gymorth i ddathlu Môn

Lansio rhaglen Balchder Bro ar gyfer prosiectau sy’n dathlu hunaniaeth Môn

gan Llinos Iorwerth

Gwahodd cymunedau ymgeisio am gymorth er mwyn dathlu Môn

Gyda lansio rhaglen newydd, Balchder Bro, yr wythnos hon, mae cyfle i grwpiau ar hyd a lled yr ynys ymgeisio am gefnogaeth ymarferol er mwyn hyrwyddo a gwireddu prosiectau cymunedol.

Yn gynllun wedi ei arwain gan Menter Môn, y nod yw rhoi hyder i bobl gyflwyno cynlluniau sy’n dathlu’r hyn sy’n gwneud eu hardal nhw yn unigryw. Wedi ei ariannu gan Gronfa  Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, fe fydd y pwyslais ar dathlu’r Gymraeg a hunaniaeth Môn trwy gynlluniau all ennyn balchder lleol.

Mae Elen Hughes, newydd ei phenodi yn Gyfarwyddwr Prosiectau gyda Menter Môn, yn egluro: “Mae gweithio er budd cymunedau’r ynys wedi bod yn ganolog i weledigaeth Menter Môn ers dros 25 mlynedd. Rhan bwysig o’n cenhadaeth yw dathlu treftadaeth ac iaith yr ynys, gan greu ffyniant yn lleol a chydweithio efo trigolion er mwyn sicrhau newid sy’n gynaliadwy.

“Ein gobaith gyda’r cynllun hwn felly, ydy ysgogi trafodaeth am yr hyn sy’n gwneud pobl yn falch o’u pentref neu eu plwyf nhw, a galluogi cymunedau wireddu syniadau. Mae gan Menter Môn brofiad sylweddol o weithio ar lefel gymunedol, a’n gobaith yw rhoi’r profiad yma ar waith er mwyn helpu cyflawni prosiectau gwerth chweil.”

Mae Elen yn egluro nad oes cyfyngiadau penodol ar y math o brosiect neu weithgaredd all Menter Môn ei gefnogi trwy rhaglen Balchder Bro, ond dylai’r pwyslais fod ar ddathlu hunaniaeth leol. Y gobaith ydy y gall digwyddiadau fel Gŵyl Cefni a phrosiectau blaenorol Menter Môn, fel Ein Hanes Ni a Celfi Môn ysbrydoli pobl feddwl am beth all weithio yn eu hardal nhw.

Fe ychwanegodf Catrin Jones, Rheolwr Cynlluniau Iaith a Chymuned Menter Môn: “Mae hwn yn gyfle cyffrous i grwpiau gwirfoddol, mentrau cymdeithasol neu unigolion wireddu syniadau sydd ganddynt fydd yn dathlu eu cymuned nhw. Gallwn ddarparu cyngor a chefnogaeth yn ogystal â chymorth ariannol.

“Ein neges yn syml ydy ‘cysylltwch hefo ni’. ‘Da ni’n barod i helpu a chydweithio hefo unrhyw gymuned ac yn awyddus tynnu pobl at ei gilydd er mwyn dathlu’r hyn sy’n eu gwneud nhw yn arbennig. O gyngherddau i gelf cyhoeddus ac o erddi cymunedol i weithdai datblygu sgiliau, ‘da ni’n barod i sgwrsio a helpu.”

Mae gofyn i bobl sydd am wneud cais am gefnogaeth lenwi ffurflen er mwyn datgan eu diddordeb mewn cymryd rhan yn Balchder Bro. Bydd tîm Menter Môn yn cysylltu wedyn i symud y broses yn ei blaen.

Mae’r cynllun wedi derbyn £1.6 trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU ac mae Menter Môn hefyd yn cydnabod cefnogaeth Awdurdod Datgomisiynu Niwclear (NDA). Mae gwybodaeth am sut i ymgeisio ar gael ar wefan Menter Môn.

Gwybodaeth ychwanegol:

Elen Hughes, Menter Môn elen@mentermon.com / 01248 725 715

Ffurflen gais a gwybodaeth/ canllawiau
Canllawiau-Balchder-Bro.docx (live.com)
Ffurflen-Gais-Balcher-Bro.docx (live.com)