Yn dilyn llwyddiant noson gymunedol Calan Gaeaf yn Nhafarn yr Iorwerth, Bryngwran, hoffai Clwb Ffermwyr Ifanc Bodedern gyhoeddi rhodd o £350.00 i fudiad Ffermwyr Ifanc Môn i’w roi tuag at y costau a’r paratoadau ar gyfer Eisteddfod CFfI Cymru sy’n cael ei chynnal ym Môn eleni.
Ar y noson, roedd yno bwmpen rodio, danteithion melys ac os yn ddigon dewr, roedd posib mynd i mewn i’r tŷ hunllefus. Fe gafodd Clwb Ffermwyr Ifanc Bodedern y cyfle i wirfoddoli a chodi arian.
Hoffem ddiolch i Dafarn yr Iorwerth am gael y cyfle fel clwb i gynorthwyo gyda’r paratoadau cyn y noson Calan Gaeaf ac am gael gwirfoddoli ar y noson hefyd. Bu ein haelodau, arweinyddion a rhieni yn gweithio’n galed iawn. Diolch i bawb fu’n rhan o’r noson wych yma.
Dymunwn pob llwyddiant i’r mudiad yma ym Môn ar y paratoadau tuag at yr Eisteddfod a fydd yma mewn ychydig ddyddiau. Dewch yn llu i gefnogi pobl ifanc yr Ynys fydd yn cystadlu dydd Sadwrn. Mi fydd y diwrnod yn cael ei gynnal ar Faes Sioe Mona ar y 18 Tachwedd gyda’r cystadlu yn dechrau am 10yb.