Genod Môn yn mwynhau ym Manaw

Bu’n wythnos a hanner i dîm pêl-rwyd Ynys Môn yn Nhwrnament yr Ynysoedd yn Ynys Manaw.

Gary Pritchard
gan Gary Pritchard
YnysManaw-YnysMon-1

Ynys Manaw yn erbyn Ynys Môn

Bu tîm pêl-rwyd Ynys Môn yn cystadlu yn Nhwrnament Pêl-rwyd yr Ynysoedd yn Ynys Manaw yn ystod yr wythnos ynghyd ag ynysoedd Guernsey, Jersey, Orkney, Shetland ac Ynys Manaw.

Sefydlwyd y twrnament er mwyn caniatau i’r ynysoedd herio eu gilydd gan nad yw pêl-rwyd yn ran o Gemau’r Ynysoedd.

“Mae wedi bod yn wythnos wych i’r garfan,” meddai prif hyfforddwr Ynys Môn, Simone Gould. “Dyma’r tro cyntaf erioed i dîm gynrychioli’r ynys mewn twrnament ac o gofio mai dim ond ers wyth wythnos mae’r genod wedi eu dewis ac wedi cychwyn ymarfer, dwi’n hynod o falch o’u perfformiadau.”

Cynhaliwyd y gemau yn y Ganolfan Chwaraeon Cenedlaethol yn Douglas a phrofodd yn gystadleuaeth o safon uchel iawn.

Er colli eu pedair gêm gyntaf, roedd sawl elfen positif i’w gymryd o’u perfformiadau, yn enwedig yn erbyn Ynys Manaw sydd wedi eu dethol yn rhif 27 ar restr detholion y byd.

A cafodd genod Môn eu haeddiant yng ngêm olaf yr wythnos wrth drechu Guernsey 57-41 a sicrhau’r pumed safle yn y grŵp.

“Mae’r grŵp yma wedi aeddfedu fel grŵp o chwaraewyr yn ystod yr wythnos,” meddai Simone. “Mae nhw wedi bod yn hynod o weithgar ac yn ysgogi a chefnogi eu gilydd, rydym wedi adeiladu teulu a dwi mor falch o hynny.”

Canlyniadau’r Wythnos
Shetland 60-49 Ynys Môn
Ynys Manaw 64-34 Ynys Môn
Orkney 65-40 Ynys Môn
Ynys Môn 22-64 Jersey
Ynys Môn 57-41 Guernsey

Carfan Ynys Môn
Elin Barwick, Alaw Ceris, Cerys Davies, Elan Gilford, Saran Griffiths, Kathryn Hughes, Cerys Jones, Jessie Jones, Lucie Leonard (Capten), Steff Oliver-Smith, Cerys Parry, Rhodd Alaw Parry, Gwenno Pritchard, Gwen Roberts, Gwenan Williams (Capten)

Tîm Hyfforddi
Simone Gould – Priff Hyfforddwr
Grace Anderson – Hyfforddwr Ymosod
Sapphira Fisher – Hyfforddwr Amddiffyn
Cara Roberts – Dadansoddi
Heidi Bakewell – Rheolwr y Tîm