Y flwyddyn orau eto!

Ffair Fenter yr Hydref yn codi’r swm mwyaf erioed.

Ysgol Gyfun Llangefni
gan Ysgol Gyfun Llangefni
Copy-of-IMG_0055-1

Un o’r timau llwyddiannus.

Ddiwedd fis Hydref bu’r disgyblion sy’n gwneud Bagloriaeth Cymru ym mlwyddyn 11 yn brysur iawn yn paratoi ar gyfer Her Menter a Chyflogadwyedd. Mae’r her hon yn rhoi cyfle i’r disgyblion feithrin sgiliau pwysig o ran gweithio mewn tîm a chydweithio gyda chynghorwyr busnes a darpar gwsmeriaid i ddatblygu cysyniad busnes.

Cafodd y disgyblion eu herio i weithio mewn grwpiau i greu busnes gan ddefnyddio grant o £10 gan yr ysgol. Ar ôl penderfynu ar syniad, roeddent yn gyfrifol am hysbysebu a chreu’r cynnyrch cyn eu gwerthu yn y Ffair. Yna, cafodd staff a disgyblion yr ysgol y cyfle i brynu’r nwyddau amrywiol yn neuadd yr ysgol, o freichledau i siocled poeth, cŵn poeth a theisennau a nifer o bethau diddorol eraill. Y gamp oedd gwneud yr elw mwyaf o werthu eu cynnyrch yn ystod y bore.

Mae’r elw bob blwyddyn yn mynd at elusennau o ddewis y disgyblion yn y gymuned leol ac rydym yn hynod o falch o gyhoeddi y codwyd £1,452.81 yn y Ffair Hydref eleni.

Diolch i bawb am gyfrannu a llongyfarchiadau mawr i chi fel blwyddyn 11 am eich mentergarwch.