Cyn-enillwyr Cân i Gymru ‘Cordia’ yn ail-ffurfio.

Cerddoriaeth newydd gan y grŵp o Fôn, Cordia, enillwyr Cân i Gymru ar Wyl Ban Geltaidd 2016.

gan Ffion Elin Davies

Mae’r grŵp Cordia, wedi cyhoeddi eu bod nhw’n ail-ffurfio ac yn rhyddhau cerddoriaeth newydd dros y misoedd nesaf.

Mae Ffion Elin, Ffion Wynn a Manon Fflur yn gyn-ddisgyblion Ysgol David Hughes ac fe enillwyd Cân i Gymru âr Wyl Ban Geltaidd nôl yn 2016 tra yn y chweched dosbarth. Ffion Elin a Rhys Jones a gyd-gyfansoddodd ‘Dim Ond Un’ ar gyfer y gystadleuaeth.  Fe ryddhawyd eu EP cyntaf ‘Tu Ȏl i’r Llun’ yn 2016 gyda phump cân wreiddiol arni.

“Enillwyr Cân i Gymru 2016.”

Wyth mlynedd yn ddiweddarach, mae Cordia wedi penderfynu ail-ffurfio ac maent wedi bod yn yn cyfansoddi a recordio caneuon newydd sbon gyda’r cynhyrchydd, Rhys Jones yn ei Stiwdio Tyn Rhos, Engedi.

Mae eu sengl cyntaf ‘Sylw’ wedi’w chyfansoddi gan Ffion Elin a Rhys Jones sydd bellach wedi graddio o brifysgolion yn Llundain a Guildford ar ôl astudio cyrsiau cerdd.

“Dwi’n teimlo ein bod ni wedi aeddfedu fel cerddorion ac fel unigolion ers i ni sefydlu wyth mlynedd yn ôl, a dwi wir yn mwynhau gweithio efo’n gilydd eto. Mae’r gerddoriaeth yn newydd ac yn gyffrous ond hefyd yn dal i ddangos elfennau o beth oedd Cordia yn wreiddiol a dwi’n edrych ymlaen am y dyfodol.” meddai Rhys Jones.

Dywedodd Ffion Elin, “Da ni wir wedi colli canu fel grŵp. Mae ‘sgwennu caneuon yn rhywbeth dwi wastad wedi fwynhau gwneud. Mae Rhys a finna yn cyd-weithio yn dda efo’n gilydd wrth ddod â chaneuon yn fyw a mae’r misoedd dwytha wedi bod yn lot fawr o hwyl yn cyd-gyfansoddi a chynhyrchu’r caneuon newydd.”

“Mae cael deud bod Cordia yn ôl yn deimlad mor gyffrous. Pan sefydlwyd y band nôl yn nyddiau ein harddegau, roedd yn gyfnod mor sbeshal ac fe gawsom gymaint o gyfleoedd anhygoel, yn cynnwys Brwydyr y Bandiau, Cân i Gymru a’r Ŵyl Ban Geltaidd. Dwi’n teimlo’n ffodus iawn i fod mewn band efo criw mor dalentog a dwi’n edrych ymlaen i bawb glywed Cordia ar ei newydd wedd!” meddai Manon Fflur.

Ychwanegodd Ffion Wynn, “Dwi mor falch o fod yn ôl yn canu a pherfformio efo Cordia. Dwi’n cofio’r cyfarfod gynta gafo ni ddechrau’r flwyddyn ar ôl bwlch o ryw saith mlynedd ac roedd o’n teimlo fel bo’ ni erioed wedi bod ar wahân! Mae yna lot wedi newid yn ein bywydau dros y blynyddoedd ond mae’r teimlad o fod yn ôl yn canu efo’n gilydd yn wych. Da ni’n gobeithio y bydd pobl yn mwynhau’r caneuon newydd gymaint a ni!”

Dilynwch Cordia ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn derbyn mwy o wybodaeth am eu cerddoriaeth newydd.

Instagram: cordia.music

Twitter: cordia_3

Facebook: Cordia

Os hoffech chi gysylltu gyda Cordia ar gyfer unrhyw ddigwyddiad, cysylltwch a cordia.cymru@gmail.com.

Dweud eich dweud