O nerth i nerth…

Y diweddaraf o adran Addysg Gorfforol Ysgol Gyfun Llangefni

Ysgol Gyfun Llangefni
gan Ysgol Gyfun Llangefni
IMG_2217
IMG_2220

Daniel a Caio yn chwarae i RGC

IMG_2221

Ymlaen i’r Hwb pêl-rwyd

Mae wedi bod yn hanner tymor prysur yma’n Ysgol Gyfun Llangefni i’r adran addysg gorfforol gyda’r disgyblion yn profi nifer o lwyddiannau ar y meysydd chwarae. Mae ein timau pêl-droed wedi bod yn chwarae gemau cwpan Cymru. Bellach mae ein tîm genethod o dan dair ar ddeg a bechgyn o dan dair ar ddeg dal yn y gystadleuaeth. Enillodd ein tîm genethod 7-0 yn erbyn Syr Hugh a 7-2 yn erbyn Glan y Môr, tra enillodd y bechgyn 7-2 yn erbyn Ysgol David Hughes ac ennill 5-0 yn erbyn Ysgol Glan Conwy. Bydd y ddau dîm yn mynd ymlaen i drydedd rownd y gystadleuaeth.

Mae ein timau rygbi wedi chwarae mewn gemau cyfeillgar a mynychu cystadlaethau rhanbarthol. Yng nghystadleuaeth Rygbi Môn o dan bymtheg, cafwyd cryn lwyddiant, gyda’r bechgyn yn ennill 3 gêm allan o 4, ond yn methu allan ar fynd ymlaen i gwpan Cymru oherwydd gwahaniaeth pwyntiau. Mae’r ysgol wedi mynychu gŵyl rygbi genethod o dan 14, a bydd y tîm yn mynd ymlaen i gystadleuaeth Gogledd Orllewin Cymru yn ystod y tymor nesaf.

Mae’r timau pêl-rwyd wedi chwarae mewn gemau cyfeillgar er mwyn dewis chwaraewyr i fynd ymlaen i hwb pêl-rwyd Gogledd Orllewin Cymru. Ar ôl chwarae yn erbyn Caergybi, Bodedern, Ysgol Syr Thomas Jones ac Ysgol David Hughes, cafodd tair o’r genethod eu dewis i gynrychioli Môn a mynd ymlaen i gael eu dewis i’r Hwb. Llongyfarchiadau mawr i Erin Quinn, Mabli Davies a Madi Sinclair-Humphreys.

Mae’r adran yn hynod falch o lwyddiannau nifer o unigolion. Mae Tony Evans o flwyddyn 8 yn parhau yn academi pêl-droed Wrecsam. Mae Caio Roberts a Daniel Stephens wedi bod yn cynrychioli tîm o dan 16 RGC tra bod Rhys Evans a Tudur Jones wedi bod yn cynrychioli’r tîm dan 18. Llongyfarchiadau mawr i Tudur fu yn ymarfer efo tîm o dan 18 Cymru yn ddiweddar. Llongyfarchiadau mawr i Efa Parry a Sian Rowlands fu’n chwarae i dîm rygbi Clybiau Cymru. Yn y maes gymnasteg, mae dwy o enethod yr Ysgol wedi dod i’r brig mewn cystadlaethau gymnasteg Gogledd Cymru, Darcy Williams yn bencampwraig gwaith llawr, a Nel Thomas yn bencampwraig y vault.

Yn ystod y tymor nesaf, mae nifer o weithgareddau eisoes wedi eu trefnu. Bydd ein timau yn mynychu sawl cystadleuaeth pêl-droed, rygbi, pêl-rwyd, hoci a phêl-fasged.