Mae’n dymor y Panto!

O na ’di ddim… O ydi mae hi!

Theatr Fach Llangefni
gan Theatr Fach Llangefni

Ambell aelod o’r cast yn ymarfer

Poster y Pantomeim

Dydi hi ddim yn Ddolig heb Banto! Bob blwyddyn mi fydd criw Theatr Fach Llangefni yn llwyfannu pantomeim Nadoligaidd am gyfnod o wythnos bob mis Rhagfyr yn Llangefni.

Eleni, pantomeim Sindarela fyddwn ni’n berfformio, ac mae’r cast wrthi’n brysur yn ymarfer bob wythnos ar gyfer y sioeau.

Pam na ddowch chi draw i fwynhau’r sioe yng ngwmni’r Farwnes Fileinig, Harriet Hyll a Henrietta Hyllach, Sip a heb anghofio Sindarela wrth gwrs!

Bydd aelodau o’r grwpiau ieuenctid yn rhan o’r pantomeim hefyd.

Mae’r cloc bron a chyrraedd hanner nos, bryswich, mae’r tocynnau’n gwerthu’n gyflym.

Tocynnau – www.theatrfachllangefni.cymru/digwyddiadau

Perfformiadau –

Pnawn Sul – 03/12/23 : 14:00
Nos Sul – 03/12/23 : 19:00
Nos Lun – 04/12/23 : 19:00
Nos Fawrth – 05/12/23 : 19:00
Nos Fercher – 06/12/23 : 19:00
Nos Iau – 07/12/23 : 19:00
Nos Wener – 08/12/23 : 19:00
Pnawn Sadwrn – 09/12/23 : 14:00