Drama’n trafod y Ddeiseb Heddwch

Drama am Annie Jane Hughes Griffiths wedi ymweld â Llangefni

Theatr Fach Llangefni
gan Theatr Fach Llangefni

Drama : Annie Cwrt Mawr

Braf iawn oedd croesawu cynhyrchiad diweddaraf cwmni Mewn Cymeriad i Theatr Fach Llangefni’r wythnos hon (24.10.23). Braf oedd gweld cynulleidfa frwd yn y ddau berfformiad. Diolch am ddod draw i gefnogi.

Stori anhygoel oedd hon yn trafod y Ddeiseb Heddwch, gafodd ei lofnodi gan bron i 400,000 o fenywod Cymru can mlynedd yn ôl.

Roedd y ddrama yn seiliedig ar stori bywyd Annie Jane Hughes Griffiths. Ymgyrchydd dros heddwch a roddodd lais i ferched Cymru ar gydraddoldeb a materion rhyngwladol.

Os fethoch chi’r ddrama yn Llangefni, mae hi ar daith ar hyn o bryd. Mae hi werth ei gweld.