Un o glasuron Tennessee Williams ar lwyfan Theatr Fach

Cyfieithiad o’r clasur Americaniadd ‘The Glass Menagerie’ ydi cynhyrchiad diweddaraf y theatr.

Theatr Fach Llangefni
gan Theatr Fach Llangefni
Cast y Werin Wydr ar lwyfan y Theatr
Gareth a Bethan, dau aelod o'r cast wrthi'n perfformio

Braf iawn oedd gweld awditoriwm y Theatr dan ei sang nos Fercher (27 Medi) wrth i ysgolion yr ardal a’r cyhoedd ddod draw i weld cynhyrchiad diweddara’r theatr, sef cyfieithiad o’r clasur Americaniadd “The Glass Menagerie” gan Tennessee Williams – Y Werin Wydr.

Y gred ydi mai hon ydi’r ddrama agosaf at hanes bywyd y dramodydd ei hun ac mai ef ydi Tom, storïwr y ddrama – gan mai enw iawn Tennessee oedd Thomas. Drama atgof ydi’r Werin Wydr, a hynny drwy lygaid Tom ond mae hefyd yn gymeriad yn y ddrama.

Ceuron Parry sy’n actio rhan Tom yn y ddrama, un o Landdeusant ydi Ceuron ac mae o newydd raddio o Brifysgol Lerpwl, gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Actio.

Dywedodd Ceuron : “Y cynhyrchiad yma yw’r cynhyrchiad cyntaf i mi wneud yn y Gymraeg ers gadael Ysgol Uwchradd Bodedern, felly mae’n braf iawn cael perfformio eto yn fy mamiaith. Mi wnes i astudio gwaith Tennessee Williams yn y brifysgol, ac wedi gweld cynhyrchiad o’i ddrama Cat on a Hot Tin Roof.”

Ychwanegodd : “Rydw i yn hoff iawn o’i waith fel dramodydd ac yn teimlo’n ffodus iawn cael perfformio un o’i ddramâu. Rydw i wedi mwynhau portreadu y cymeriad Tom yn fawr iawn, ac yn gweld tebygrwydd yn rhai o rinweddau ein personoliaethau- ond dwi’n siŵr fyddai Mam yn cytuno mod i ddim yn ysmygu nac yn llymeitian yn y pictiwrs!!!”

Er mor bwysig ydi’r actorion yn y ddrama, mae’n rhaid cael cyfarwyddwr craff i ofalu bod pawb yn neud eu gwaith yn iawn, ac yn gwneud yn siŵr fod popeth yn rhedeg yn esmwyth. Pleser ydi croesawu Catrin J. Hughes yn ôl i’r theatr eleni i gyfarwyddo’r ddrama hon.

Dywedodd Catrin : “‘Dwi mor falch o fod yn ôl yn Theatr Fach yn cyfarwyddo unwaith eto am sawl rheswm. Rwyf yn cael y cyfle i gyfarwyddo un arall o glasuron y Theatr Americanaidd.” 

Ychwanegodd : “Mae dau aelod o’r cast yn gynddisgyblion imi a mor braf yw cael cydweithio eto. Dwi eisiau gweld Theatr Fach yn ffynnu ac un ffordd o wneud hynny ydi drwy ddenu gwaed newydd felly dwi’n arbennig o falch bod 3 aelod o’r cast yn cael cyfle i actio ar lwyfan Theatr Fach am y tro cyntaf.”

Mae ‘Y Werin Wydr’ ymlaen yn Theatr Fach Llangefni rhwng y 27ain a’r 29ain o Fedi, 2023.

Mae modd cael tocynnau o Siop Cwpwrdd Cornel neu drwy fynd i’n gwefan yma.