Ar ddechrau Medi, dechreuais ar fy swydd newydd gydag Age Cymru Gwynedd a Môn fel Swyddog Cefnogi Hybiau Cymunedol ar yr Ynys.
Nodir gan Gyngor Môn yn eu Strategaeth Heneiddio’n Dda 2022 – 2027, mai eu gweledigaeth yw Ynys Môn sy’n oed gyfeillgar ac yn cefnogi pobl o bob oedran i fyw a heneiddio’n dda.
Mae Hybiau Cymunedol yn chwarae rhan hanfodol yn y weledigaeth hon trwy sicrhau gofod diogel i bobl ymgynnull ar gyfer cymdeithasu a chymryd rhan. Ar hyn o bryd, mae’r hybiau cymunedol ar yr Ynys yn amrywio o gymuned i gymuned gydag amrywiaeth o Gaffis, Canolfannau Cymunedol, Tafarndai Cymunedol a hen ysgolion yn cael eu defnyddio fel lleoliadau. Darperir ystod o weithgareddau megis grwpiau cyfeillgarwch, grwpiau cerdded, dosbarthiadau ffitrwydd, Tai-Chi, clybiau sinema, cerddoriaeth i enwi ond ychydig. Er bod yr hybiau yn wahanol i’w gilydd, yr hyn sy’n gyffredin yw eu bod i gyd yn rhoi cyfleoedd i bobl ddod at ei gilydd a chymdeithasu a chymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n ymateb i’w anghenion a’u diddordebau penodol hwy.
Diben fy swydd i yw cefnogi a chydweithio gyda Hybiau Cymunedol Ynys Môn i adnabod anghenion mewn ardaloedd ac i greu ystod o weithgareddau a digwyddiadau. Rhoddir pwyslais ar gefnogi a chynorthwyo grwpiau cymunedol i ddatblygu a chynnal cymunedau cynhwysol sy’n oed gyfeillgar gan gyfrannu at les corfforol ac emosiynol y boblogaeth lleol.
Yn naturiol, nid yw Age Cymru yn gweithio’n annibynnol, yr ydym yn cydweithio gyda Chyngor Môn, mudiadau trydydd sector a grwpiau lleol eraill er mwyn ymateb yn gadarnhaol i ddiffyg gwasanaethau neu fylchau yn y gymuned yn lleol gan leihau arwahanrwydd ac unigrwydd.
Ar hyn o bryd, mae Age Cymru Gwynedd a Môn yn darparu yn Ynys Môn:
- Gwasanaeth Gofal yn y cartref
- Gwasanaeth gwybodaeth a chyngor
- Pryd ar glyd
- Cyfleoedd i bobl ddod ynghyd am ginio neu baned yng Nghanolfan Glanhwfa, Llangefni ar ddydd Mercher a dydd Iau
Fel elusen, yr ydym yn awyddus iawn i godi ymwybyddiaeth ynghylch a’n gwaith ar yr Ynys ac ehangu ein darpariaeth gan gynnwys cyfnodau ysbaid i ofalwyr. Fel pob elusen, yr ydym yn ddibynnol iawn ar gymorth gwirfoddolwyr. Os oes gennych ychydig o oriau i’w sbario, beth am wirfoddoli gyda ni? Yr ydym yn awyddus i gael pobl i gynnal a helpu gyda gweithgareddau, i ddanfon âprydau i gartrefi (telir 40 ceiniog y ffilltir tuag at gostau teithio) neu i dreulio ychydig amser gyda rhywun oedranus neu fregus tra bod eu gofalwyr yn cael ysbaid.
Os hoffech wirfoddol neu gyflwyniad mewn cymdeithas leol ar ein gwaith gellir cysylltu â mi Alwen Pennant Watkin trwy ebostio alwen@acgm.co. uk neu ffonio 07475 459884 neu gyda Rhian Jones rhian@acgm.co.uk