Cynhyrchiad diweddaraf Theatr Fach Llangefni ydi cyfieithiad o’r clasur Americaniadd “The Glass Menagerie” gan Tennessee Williams. Bydd cynhyrchiad Y Werin Wydr ymlaen rhwng y 27-29 o Fedi, 2023 @ 7yh.
Tocynnau ar werth yma neu drwy ymweld â siop Cwpwrdd Cornel, Llangefni.
Rydym yn ffodus iawn o groesawu wynebau newydd o bob cwr o’r ynys i lwyfan Theatr Fach Llangefni sef Ceuron Parry yn actio Tom, Teleri Mair yn actio’r fam, Gareth Thomas yn actio’r ymwelydd bonheddig yn ogystal â chroesawu wyneb cyfarwydd yn y theatr yn ei hôl, sef Bethan Elin, fydd yn portreadu Laura, y ferch eiddil yn y ddrama sydd yr un mor fregus â’r anifeiliaid bach gwydr y mae hi wrth eu bodd â nhw.
Bydd Catrin Jones Hughes, un o aelodau brwd y theatr yn cyfarwyddo’r ddrama hon. Braf iawn ydi croesawu Catrin nôl i gyfarwyddo ei drama gyntaf yn y theatr ers y pandemig.
Braf iawn hefyd ydi gallu cydweithio gyda busnes lleol i werthu tocynnau ar gyfer y ddrama, bydd tocynnau ar gael o Cwpwrdd Cornel – diolch iddyn nhw am eu cymorth. Diolch hefyd i Anna Gruffydd am ei chaniatâd arbennig i lwyfannu’r ddrama ac i “The University of the South, Sewanee, Tennessee”.
Hanes y Ddrama
Hanes teulu’r Wingfield a gawn ynddi a’r gred ydi mai hon ydi’r ddrama agosaf at hanes bywyd y dramodydd ei hun ac mai ef yn wir ydi Tom, storïwr y ddrama gan mai enw iawn Tennessee oedd Thomas. Drama atgof ydi hi drwy lygaid Tom ond mae hefyd yn gymeriad yn y ddrama.
Gweithia Tom mewn ffatri esgidiau, mewn swydd ddiflas mae’n ei chasáu. Mae’r teulu yn dibynnu ar ei gyflog pitw gan bod y tad wedi eu gadael. Mae Tom hefyd yn breuddwydio am ddianc ond mae’n pryderu am ddyfodol ei chwaer Laura. Mae Amanda y fam yn ysu am ddyddiau ei hieuenctid pan oedd yn boblogaidd ac yn byw bywyd moethus a chysurus. Ni all amgyffred pam na ddaw ‘ymwelwyr bonheddig’ i alw ar Laura fel yr oeddynt iddi hithau pan yn iau. Dan bwysau gan ei fam, mae Tom yn trefnu i ŵr ifanc alw. Beth all fynd o’i le?