Roedd yn Eisteddfod i’w chofio i Seindorf Ieuenctid Beaumaris wrth iddyn nhw ennill y gystadleuaeth Bandiau Pres Ieuenctid a sicrhau eu lle fel cynrychiolwyr Cymru ym Mhencampwriaeth Bandiau Pres Ewrop yn Lithiwania flwyddyn nesaf.
Dyma’r tro cyntaf erioed i gystadleuaeth Ieuenctid ymddangos yn y Brifwyl a swynwyd y beirniad, Gary Davies, gan berfformiad y cerddorion ifanc o Festival Fanfare, Carnival of Venice a Sosban Fach.
“Diolch am berfformiad gwych lle roedd y gerddoriaeth yn llifo. Roedd gan y band sain arbennig,” meddai yn ei feirniadaeth.
Roedd hefyd llawn canmoliaeth i unawdydd a phrif gornetydd y band, Osian Maloney, yn dilyn ei berfformiad o Carnival of Venice.
“Roedd y techneg yr unawdydd yn arbennig,” meddai. “Da iawn chi, syr, ar berfformiad penigamp!”
Roedd arweinydd y band, Pete Cowlishaw, yr un mor ganmoliaethus o’i fand gan dalu teyrnged i’w ymroddiad a’u awch i ddysgu.
“Mae wedi bod yn gyfnod heriol oherwydd bod nifer o’r pobl ifanc yn adolygu ar gyfer arholiadau yn ystod y cyfnod diweddar yma, hefyd,” meddai.
“Ond roedd pob un wedi dangos ymroddiad arbennig i’r band a dwi mor falch eu bod wedi perfformio mor dda ar lwyfan yr Eisteddfod. Mae’n deimlad arbennig gallu dweud mai ni yw Pencampwyr Ieuenctid Cymru!”
Bydd y band yn dod yn ôl at eu gilydd ym mis Medi er mwyn cychwyn ar y gwaith caled o baratoi, ymarfer a chodi arian er mwyn gallu cystadlu ym Mhencampwriaethau Bandiau Pres Ewrop yn Palanga, Lithiwania rhwng 3-5 Mai 2024.