Cafwyd noson lwyddiannus iawn ganol Awst pan gynhaliodd ardal Bodwrog Helfa Drysor er mwyn dechrau codi arian tuag at Eisteddfod yr Urdd, Ynys Môn, 2026!
Targed ardaloedd Llangwyllog, Bodffordd, Llynfaes, Llandrygarn a Threfor ydy £5000 a llwyddwyd i godi dros £500 at y gronfa drwy gynnal yr Helfa Drysor. Roedd hi’n cychwyn yn Neuadd Bodwrog, Llynfaes, ac yna’n ymlwybro’n araf (!) ar hyd y lonydd cefn drwy Walchmai, Bryngwran a Bodedern, cyn gorffen ein taith yn Llannerchymedd.
Roedd 35 car wedi cymryd rhan a £529 wedi ei gasglu rhwng yr helfa a’r raffl.
Mae’r tim buddugol wedi cytuno (!) i lunio Helfa arall yn y flwyddyn newydd, ac mae’n braf gweld ardaloedd eraill yn cynnal digwyddiadau o’r fath. Cefnogwch da chi!
Diolch i Non am lunio’r Helfa heriol ond hwyliog a diolch i bawb gymrodd rhan – da chi gyd yn ⭐.
A diolch i Bull Inn Llanerchymedd a Sion Tai Hen (@Blas Môn) am ein bwydo, ac am ei gyfraniad at yr achos 🍔🏴👏🏼.
Croeso i chi ymuno yn y cyfarfod nesaf i drafod syniadau pellach i godi arian yn Neuadd Bodwrog, Medi’r 10fed am 7:30. Dewch yn llu!