Tiriogaeth y tegeirian a llain y llenor, dyna ydi’r Marian – ac eleni, mae’r pentref ymddangosiadol gysgedig yma, Marian-glas, yn dathlu carreg filltir yn hanes ei heisteddfod.
Ar y cyntaf o Fawrth 2024, trodd Eisteddfod Ieuenctid Marian-glas yn 100 oed, ac mae hynny wedi bod yn destun balchder i amryw, ac yn achos dathlu heb os.
Sefydlwyd yr Eisteddfod yn wreiddiol yn y 1920au gan Gapel Seion, Llanfair Mathafarn Eithaf, a’i diben oedd codi arian tuag at goffrau’r Capel. Yn dilyn cynnal yr Eisteddfod am y tro cyntaf, mi benderfynwyd, yn ben-di-faddau, fod angen ei chynnal eto, ac eto, ac eto, a dyma ni, ganrif yn ddiweddarach, yn dal i’w chynnal. Ac mae diolch gwirioneddol i Gapel y Bedyddwyr Seion a’r praidd a ddaeth ynghyd i drefnu’r hyn a ddeuai’n galon ddiwylliannol Gymraeg y Marian.
Mae Eisteddfod Marian-glas wedi dal i fynd ac wedi llwyddo er gwaethaf sawl her dros y blynyddoedd. Profodd cyfnod yr Ail Ryfel Byd yn anodd iawn, o ran ysbryd ac awydd, a bu peryglon ariannol o dro i dro, a phandemig Covid-19 yn destun pryder gwirioneddol.
Ond daliwyd i fynd. Roedd y gallu i ymgynnull ynghyd a pherfformio, a chymdeithasu, a chofio’r hogia’ a gollwyd yn y Rhyfel, yn bwysig. Gweithiodd aelodau’r Capel a’r Eisteddfod yn galed iawn i godi nawdd i wella cyflwr y coffrau. Ac wrth wynebu Cythraul y Cofid, daeth sawl un ynghyd i gynnal Eisteddfod Rithiol. Mewn partneriaeth â’r grŵp Facebook, Côr-ona, a sefydlwyd gan un o hoelion wyth cyfredol Eisteddfod Ieuenctid Marian-glas, Catrin Angharad, cynhaliwyd yr Eisteddfod ar-lein. A phrofodd honno’n chwip o achlysur.
Ond, yn anffodus, yn dilyn y cyfnodau clo, mae sawl eisteddfod wedi dod i ben, sy’n dristwch mawr, yn wir. Ac er y simsanrwydd a gafwyd am ennyd fach, fach, daeth pwyllgor Eisteddfod Ieuenctid Marian-glas ynghyd, yn benderfynol ac yn llawn angerdd i ail-gydio yn yr arfer o gynnal prifwyl plwyf Llaneugrad yn Hen Ysgol Marian-glas yn dilyn y cyfnodau clo, a dyna sy’n digwydd.
Mae’r Eisteddfod yn dal i fynd, ac yn dal i lewyrchu, a hynny oherwydd y gefnogaeth a’r angerdd gan bobl o bob man.
Mae gwerth canrif o aelodau bywiog a gweithgar wedi llywio’r Eisteddfod drwy’r pwyllgor. Ymhlith yr enwau y mae ein dyled iddyn nhw’n fawr, mae Margaret Parry, Mary Roberts, Ellen Roger-Jones, Dewi Jones, Gwilym a Nel Hawes, Robert John Williams, a chymaint yn fwy na ellir eu rhestru mewn difri.
Erbyn heddiw, mae yna bwyllgor sy’n llawn angerdd a chyffro, dan gadeiryddiaeth arbennig Fiona Hughes, yn cynnwys Ffion Kellett (sy’n drysorydd diwyd), Ceinwen Price, Eryl Evans, Dafydd Evans, Rhian Mair Jones, Catrin Angharad, Olwen Green, Gwen Saunders-Collins, Morfudd Owen, Gwen Elin, Sian Roberts, a Gareth Evans-Jones (ysgrifennydd). Mae nifer o gymwynaswyr a chefnogwyr hefyd sy’n werthfawr tu hwnt na ellir eu henwi bob un.
Ond mae’r pennaf ddiolch, heb os nac oni bai, i’r cystadleuwyr a’r gynulleidfa, bob un ohonyn nhw. Hebddyn nhw, fyddai yna ddim diben cynnal Eisteddfod. Ac mae’r ffaith fod yna gystadleuwyr a chynulleidfa’n dod o bob cwr o’r Ynys a thu hwnt i gefnogi’r Eisteddfod yma yn amhrisiadwy, ac yn adrodd cyfrolau.
A son am gyfrolau, ar hyn o bryd, mae Iwan Kellett wrthi’n gorffen golygu llyfr arbennig am hanes a llenyddiaeth gysylltiedig ag Eisteddfod Marian-glas, Mwynder y Marian, a gyhoeddir yn hwyrach eleni. Ac mae Heledd Owen, un arall o ferched y fro, yn dylunio’r gyfrol gywrain yma.
Tra bod awydd am Eisteddfod, mi fydd yna ganu, llefaru, llenydda, a mwynhau yn y Marian.
Mae Eisteddfod Ieuenctid Marian-glas, Steddfod Marian i bawb, yn dal i fynd, a dyma groesi trothwy’r canmlwyddiant, a chamu’n llawen i’r ail ganrif.
Yn wir, mae mwynder yn y Marian, a chaneuon lu ym mhob tegeirian, ac wrth inni ddathlu canmlwyddiant Steddfod Marian, dyma ddathlu bod awydd am ein traddodiadau Cymreig a’r dymuniad i roi llwyfan i ddoniau’r dyfodol.