‘Ydach chi’n mynd i’r Primin ’leni?’
Dyna gwestiwn fydd sawl un wedi’i ofyn yn ddiweddar a’r ateb gan amlaf fyddai, ‘Siŵr iawn!’ neu ‘Wrth gwrs!’ neu ‘Bendant!’ Ond pam ‘Primin’? Sioe Sir Fôn ydi enw swyddogol yr hyn sy’n digwydd draw yng Nghae Sioe Mona’r mis Awst yma, yr un fath ag arfer, ia ddim?
Mae ‘primin’ fel gair yn golygu ‘sioe amaethyddol’, ac mae’n enghraifft o eirfa unigryw a chyfoethog Ynys Môn. Ym 1983, cyhoeddwyd golygiad yr Athro Bedwyr Lewis Jones o Iaith Sir Fôn, ac ar dudalen 62 y gyfrol honno, nodir mai ‘sioe’ ydi ystyr ‘primin’. Mae tystiolaeth gynharach o hyn hefyd i’w gweld yn y gyfrol, The Welsh Vocabulary of the Bangor District, a gyhoeddwyd ym 1913 dan olygyddiaeth O. H. Fynes-Clinton.
Ond nid gair wedi’i gyfyngu i Ynys Môn, dirion dir, chwedl yr hen fardd, mo hwn. Yn wir, mae tystiolaeth ei fod ar waith yng Ngheredigion hefyd. Er enghraifft, nodwyd yn rhifyn lxii Cymru, a olygwyd gan O. M. Edwards, fod ‘primin’ yn cyfeirio at ras aredig draw yng Ngheredigion. A hyd yn oed cyn gynhared ag 1894, gwelwyd y cyfeiriad canlynol at ‘brimin’ yn y gyfrol Gwilym a Benni Bach gan W. Ll. Williams: ‘mae e’n ffysto waginer Cwmbrân o hewl … A fe gas y preis yn y preimin.’
Mae ‘primin’ yn bod mewn sawl man ar hyd Cymru, ond, heb os, mae’n air y mae llawer iawn yn ei gysylltu â Môn. Felly’r flwyddyn nesaf, pan fydd y paratoadau ar waith at brifwyl anifeiliaid Ynys Môn, meiniwch eich clustiau i glywed beth fydd yn cael ei ofyn – a ydach chi am fynd i Sioe Môn neu i Sioe Sir Fôn neu, yn wir, i’r Primin?!